Text Box: Lesley Griffiths AC
 Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

 

27 Ionawr 2016

 

Annwyl Weinidog

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, 2016-17

Diolch ichi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor ar 21 Ionawr 2016 i ateb cwestiynau am gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17, yn benodol ynglŷn â chymunedau a threchu tlodi.

Hoffai’r Pwyllgor dynnu eich sylw at y materion a nodir isod, ac edrychwn ymlaen at gael eich ymateb, lle y bo’n briodol, maes o law.

1. Cymunedau yn Gyntaf

Rydym yn croesawu diogelu arian y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf rhag unrhyw leihad mewn arian parod.

Yn dilyn y gwaith craffu y llynedd ar y gyllideb ddrafft, ysgrifenasom atoch ynghylch effeithiolrwydd Cymunedau yn Gyntaf, gan fod y Pwyllgor yn awyddus i weld cysylltiad amlwg rhwng buddsoddi yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a chanlyniadau clir, mesuradwy sy’n deillio o’r Rhaglen, er mwyn pennu gwerth am arian.

 

 

 

 

Mewn ymateb i’n llythyr, dywedasoch wrthym fod darpariaeth yn cael ei mesur yn ôl maint ac effaith, yn ôl y nifer o ymyriadau a sawl un o’r ymyriadau hynny wnaeth arwain at ganlyniad cadarnhaol i’r unigolyn.

Rydym yn cydnabod manteision Atebolrwydd yn seiliedig ar Ganlyniadau, fel arf ar gyfer mesur perfformiad a llywio penderfyniadau ariannu. Rydym yn cydnabod y gwaith sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru i wella’r trefniadau ar gyfer asesu effeithiolrwydd ei rhaglenni allweddol a’r symudiad i ddull seiliedig ar ganlyniadau gan ddefnyddio Atebolrwydd yn seiliedig ar Ganlyniadau. Rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yn gofyn am ragor o fanylion am sut y mae hyn wedi helpu i lywio’r broses o bennu’r gyllideb, yn enwedig y penderfyniadau i ddiogelu’r cyllid ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf. Yn yr un modd, byddai gennym ddiddordeb mewn cael eich sylwadau ar hyn.

 

Serch hynny, rydym yn pryderu bod peth o’r dystiolaeth yn ymwneud â Chymunedau yn Gyntaf yn methu â dangos bod y buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir ac felly’n darparu gwerth am arian. Nid yw’n glir sut y gall Llywodraeth Cymru briodoli canlyniadau penodol o fewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i’r rhaglen ei hun, yn hytrach na rhaglenni eraill neu amodau economaidd cyffredinol.

 

Nodwyd gennych fod dadelfennu effaith rhaglenni eraill o fewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn anodd. Rydym yn credu y dylai mwy o waith gael ei wneud yn y maes hwn fel bod y cysylltiadau rhwng buddsoddiadau a chanlyniadau yn gliriach.

 

Cytunasoch i rannu peth o’r data sydd gennych sy’n cymharu cyfraddau cyflogaeth rhwng ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac ardaloedd eraill y tu allan i’r rhaglen. Byddem yn croesawu’r wybodaeth honno.

At hynny, byddem yn ddiolchgar pe gallech egluro:

     i.        Pam nad yw nifer y bobl sy’n byw mewn tlodi yn cael ei olrhain fel dangosydd perfformiad Cymunedau yn Gyntaf;

   ii.        Sut yr ydych yn ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl sy’n byw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, a manylion pellach am y broses Cynllun Cynnwys Cymunedau.

2. Digartrefedd

Yn ystod ein cyfarfod, dywedasoch wrthym eich bod yn rhoi £3 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2016 i gefnogi gweithredu Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Fodd bynnag, mewn ymateb ar wahân i WAQ (69580), dywedasoch y byddech yn rhoi £2.2 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol.

Dywedasoch wrthym fod y dyraniad o £3 miliwn yn cynnwys £0.8 miliwn o’r gyllideb atal digartrefedd a £2.2 miliwn ychwanegol o ar draws y portffolio cyfan. Gofynasom i chi pam nad yw’r dyraniad hwn o £2.2 miliwn yn ymddangos yn y llinell gyllideb, a dywedasoch fod hyn oherwydd ei fod yn "bwysau ariannu’r gyllideb". A allech chi:

i.             egluro’r hyn yr oeddech yn ei olygu gan y datganiad hwn,

ii.           rhoi dadansoddiad o’r meysydd yn eich portffolio cyffredinol y mae’r £ 2.2 miliwn wedi’i dynnu ohonynt, a

iii.          cadarnhau a fydd y dyraniad ychwanegol i awdurdodau lleol yn £3 miliwn neu’n £2.2 miliwn.

3. Cynhwysiant ariannol

Rydym yn nodi y bydd y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol a’r cynllun cyflwyno "wedi’u hadnewyddu" yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach yn 2016 a’u hariannu drwy Linell Wariant y Gyllideb Cynhwysiant Ariannol sy’n bodoli eisoes.

Rydym yn edrych ymlaen at drafod hyn gyda chi yn fwy manwl yn ein cyfarfod ar 27 Ionawr.

4. Swyddogion Galluogi Tai

Rydym yn nodi nad oes unrhyw ddyraniad cyllid penodol yn y gyllideb ddrafft ar gyfer Swyddogion Galluogi Tai Gwledig, a bod partneriaid eraill yn ogystal â Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer y swyddi hyn. Fodd bynnag, yn eich tystiolaeth, dywedasoch eich bod wedi gwneud ymrwymiad ‘mewn egwyddor’ o £ 100,000 i ariannu Swyddogion Galluogi Tai Gwledig.

 

 

Mae eich papur yn dangos Llinell Wariant Cyllideb refeniw ar gyfer "Swyddogion Galluogi Tai" sydd wedi’i lleihau o £95,000 i sero yn 2016-17. A allwch chi gadarnhau:

i.             a yw’r BEL hwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu Swyddogion Galluogi Tai Gwledig, ac

ii.           a fydd y cyllid hwnnw ar gael i barhau â gwaith Swyddogion Galluogi Tai Gwledig.

5. Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)

Fel y gwyddoch, derbyniodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016. Roeddem yn synnu felly i glywed er eich bod yn disgwyl i 21 darn o is-ddeddfwriaeth gael eu gwneud o dan y Ddeddf, roedd yn ymddangos nad oedd unrhyw waith paratoadol wedi ei wneud o ran drafftio rheoliadau ac nid oes unrhyw arian wedi’i ddyrannu ar gyfer hyn yng nghyllideb 2016-17.

     i.        A allech chi gadarnhau pryd yr ydych yn rhagweld  y byddwch yn cyflwyno rheoliadau a chanllawiau o dan y Ddeddf?

 

Yn gywir

Christine Chapman AC
Cadeirydd

cc: Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid